top of page
Organic, bilingual and multicultural childcare in the heart of Cardiff
Nursery Cardiff

Ein dulliau

Mae Meithrinfa Nythgywion yn defnyddio dulliau o arddulliau enwog Waldorf Steiner a Maria Montessori i gyflwyno Cyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar i blant ifanc.

Mae arddulliau addysgu Steiner a Montessori yn wahanol, ond mae'r ddau yn canolbwyntio ar bwysigrwydd ein hamgylchedd naturiol a'n hamgylchoedd.

 

Mae'r dull Montessori yn galluogi plant i archwilio gweithgareddau a baratowyd gan athrawon sy’n canolbwyntio ar syniadau bywyd go iawn yn eu gofod a’u hamser eu hunain. Mae dull Steiner, tra ganiatáu plant i archwilio gweithgareddau am eu hunain, hefyd yn dilyn trefn ddyddiol sefydlog ac yn canolbwyntio mwy ar ddiddordebau creadigol a meddwl dychmygus pob plentyn.

Trwy ymchwil a phrofiad, credwn fod llawer i'w fabwysiadu o ddod â'r fath gyfoeth o wybodaeth a methodoleg brofedig at ei gilydd.

Yma yn Nythgywion, rydyn ni’n credu ein bod ni wedi creu byd o ddysgu sy’n cofleidio’r gorau sydd yna i addysgu a gofalu am eich plentyn a’i ddyfodol.

Nursery Cardiff
Nursery Cardiff
Nursery Play Cardiff

Trefn

Mae trefn feunyddiol yn rhoi ymdeimlad o sicrwydd a dealltwriaeth i'r plant, ond o fewn y drefn hon mae plant yn cael amser sylweddol dan oruchwyliaeth i archwilio ac ymchwilio gweithgareddau gwahanol am eu hunain. Mae'r amseroedd hyn yn cael eu cynllunio a'u gosod yn ofalus gan yr athrawon meithrin i gefnogi cyfnodau datblygiad pob plentyn.

Gweithgareddau

Mae ein rhaglenni sydd wedi'i gynllunio'n ddyddiol yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau, yn gynnwys:

* Creadigol           *Chwarae Brwnt          *Chwarae Rhan          *Congl Gartef          *Adeiladwaith    *Byd Bach      *Tywod          *Dŵr           *Awyr Agored           *Corfforol Mawr           *Top Bwrdd          *Synhwyraidd         *Garddwriaeth          *Bwrdd Tymhorol           *Byrbryd/Coginio           *Stori            *Amser Grŵp

Rydym yn datblygu rhaglenni sy'n cynnwys 10 gweithgaredd gwahanol y dydd ar gyfer y babanod ieuengaf a hyd at 17 gweithgaredd y dydd yn ein cyn-ysgol.

Mae’r meysydd gwahanol hyn yn rhoi sylfaen gadarn i blant ar gyfer datblygiad trwy'r saith maes gwahanol Gyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar:

  • Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol

  • Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

  • Datblygiad Mathemategol

  • Datblygiad Iaith Cymraeg

  • Gwybodaeth a Dealltwriaeth o'r Byd

  • Datblygiad Corfforol

  • Datblygiad Creadigol

Ein Ethos

Mae addysgu plant am y byd naturiol o’n cwmpas yn uchel ar agenda’r Feithrinfa ac mae ein gweithgareddau dyddiol yn pwysleisio pwysigrwydd gofalu am ein planed, ffrindiau, teulu a chymdogion.

 

Y Byd Naturiol

Bob dydd mae'r plant yn cymryd rhan yn weithgaredd garddio, sy'n amrywio o ddyfrio ein planhigion organig cartref yn ein gardd dan do i adeiladu cromen helyg yn ein gofod awyr agored hwyliog.

Mae Meithrinfa Nythgywion yn ceisio bod mor ecogyfeillgar ag gallwn trwy gyrchu cynnyrch lleol, defnyddio ychydig o blastig a posib, ailddefnyddio ac ailgylchu eitemau a bod mor organig â phosibl. Mae'r offer a ddarperir ar gyfer y plant yn bennaf wedi'i wneud o bren a chynhyrchion naturiol eraill.

Rydym yn darparu dyddiaduron dyddiol, anfonebau a deunyddiau eraill trwy lwyfannau ar-lein diogel i arbed ar bapur a gwastraff.

Rydym yn darparu amrywiaeth o ginio bob wythnos: un cig, un ieir, un pysgodyn a dau lysieuol. Mae llawer o ymchwil i awgrymu, yn ogystal â darparu diet iachach, y gall cwtogi ar fwyta cig helpu'r newid yn yr hinsawdd drwy leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Darganfyddwch fwy am ein bwydlenni yma

Ein Cymuned

Rydym yn cynnwys amrywiaeth yr hil ddynol trwy ddathlu dathliadau o ddiwylliannau a chrefyddau gwahanol trwy gydol y flwyddyn. Mae yna fwrdd tymhorol ym mhob ystafell ac anogir y plant i ddod ag eitemau i mewn i'w rhannu gyda'u ffrindiau.

Rydym yn cynnal diwrnodau teuluol rheolaidd ac o leiaf ddwywaith y flwyddyn rydym yn cynnal gweithgaredd codi arian elusennol i gefnogi hosbis plant lleol, Tŷ Hafan, gan roi cyfle i blant helpu eraill yn y gymuned.

 

Ailgylchu

Mae gwastraff bwyd amrwd yn cael ei roi yn ein bin compost yn y Feithrinfa a'i ailddefnyddio yn ein gerddi ar ôl iddo dorri i lawr. Mae cynhyrchion eraill yn cael eu hailgylchu trwy adnoddau'r cyngor.

Cardiff Nursery
Cardiff Nursery

Awgrymiadau

Rydym yn wastad ceisio gwella ein darpariaeth greadigol, ddysgu a dod yn fwy ecogyfeillgar. Rydym yn croesawu mewnbwn ac yn croesawu syniadau newydd gan y plant, rhieni a staff cyfan.

bottom of page