top of page
Organic, bilingual and multicultural childcare in the heart of Cardiff
Nursery Cardiff

Popeth amdano Feithrinfa Nythgywion

  • Mae Meithrinfa Nestlings yn lleoliad amlddiwylliannol, ecogyfeillgar, iachus a chartrefol, sy’n gofalu am ac yn addysgu babanod o 3 mis oed i blant 5 mlwydd oed. Mae yna glwb gwyliau hwyliog sy’n canolbwyntio ar y goedwig hefyd ar gael i blant ysgol hyd at 12 mlwydd oed.

 

  • Rydym yn darparu ein gofal plant yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd sesiynau iaith ychwanegol ar gael yn fuan ar gyfer plant cyn oed ysgol, gofynnwch i ni am fwy gwybodaeth.

  • Mae'r staff cymwys a phrofiadol iawn wedi cael eu dewis yn ofalus i ddarparu’r cariad, sylw, gofal ac addysg orau mae eich plentyn yn ei haeddu.

​​

  • Mae prydau a byrbrydau organig wedi'i choginio yn y gartref yn cael eu paratoi’n ddyddiol gan ein cogydd profiadol, gydag amrywiaeth o opsiynau dietegol ar gael.

  • Mae pop bryd o fwyd organig, llaeth a hanfodion hylendid bioddiraddadwy wedi'u cynnwys yn ffioedd meithrinfa.

  • Rydym yn darparu 'Porth Rhieni' ar-lein a ddiogel lle gall rhieni gyfathrebu â'u gweithiwr allweddol yn ogystal â chael mynediad i'n calendr digwyddiadau a chylchlythyr.

  • Mae'n bwysig i bobl ifanc ddathlu amrywiaeth yr hil ddynol. Mae Meithrinfa Nythgywion yn gwerthfawrogi’r hyn sy’n gwneud pobl yn wahanol drwy gynnwys pob ffydd a diwylliant.​

  • "Gofalu a pharchu'r byd yr ydym yn byw ynddo" yw ethos y Feithrinfa. Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod plant yn tyfu i fyny gan wybod pwysigrwydd amddiffyn ein planed ar gyfer y dyfodol.

Misty Ardouin - owner of Nestlings Nursery Ltd.

Popeth am Berchennog Y Nyth

Misty Ardouin, a ganed ac a fagwyd yn Sir Gaerfyrddin, symudodd i Gaerdydd yn 2010 gydag uchelgais ac angerdd i ddarparu’r gofal, cariad ac addysg orau y gallai i blant ifanc yn yr ardal.

Astudiodd Misty Addysg efo Drama ym Mhrifysgol Bath Spa, yn canolbwyntio ar arddulliau addysg Blynyddoedd Cynnar a phlentyn-ganolog Maria Montessori a Rudolf Steiner - graddiodd yn 2009 gyda BA/HONS 2:1

Yn dilyn y Brifysgol, aeth Misty ymlaen i ennill mwy o wybodaeth a phrofiad trwy astudio ei Lefel 5 yn Arwain Gofal Plant, Dysgu a Datblygiad Plant yn ogystal â chyrsiau plentyn-ganolog perthnasol eraill a gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau gofal plant; o redeg clybiau gwyliau plant dramor i reoli nifer o wahanol Feithrinfeydd yn yr ardal Caerdydd.

Ar ôl 10 mlynedd o brofiad, ymchwil ac astudio'n bellach, penderfynodd Misty ei bod yn bryd cymryd y naid ac agor Meithrinfa ei hun. Yn 2019, rhoddodd Misty ei chalon a’i henaid i agor Meithrinfa Nythgywion ar St Andrews Crescent yng Nghanol Dinas Caerdydd.

 

Mae lleoliad gofal plant Misty yn ymgorffori ei chred o ddarparu gofal, addysg, cariad a sylw o ansawdd i bob plentyn fel y mea'n nhw yn haeddu yn ogystal â'i hangerdd dros yr amgylchedd, y gymuned, yr amrywiaeth ddiwylliannol a'r ysbryd Cymreig.

 

Ers agor y drysau ar ddiwedd 2019 (3 mis cyn pandemig byd-eang), mae Nestlings wedi mynd o gryfder i gryfder - gan gynyddu eu niferoedd yn 2020, derbyn adroddiad arolygu rhagorol yn 2021 ac ennill gwobr 20 Uchaf daynurseries.co.uk yng Nghymru ar gyfer 2021 A 2022!

 

Mae Misty yn ymwneud yn fawr â'r Feithrinfa, plant a'u teuluoedd - yn gweithio gyda thîm gwych o bobl o'r un anian ac angerdd sy'n helpu i wneud Y Nyth Y GORAU!

bottom of page